This page in English - Y dudalen yma yn Saesneg

Y mae rhestr o geisiadau cynllunio y gallwch wrthwynebu iddynnt yn y golofn las isod. Mae'n hawdd i wneud mewn 3 cam syml.

1. cliciwch ar y cais yr ydych eisiau ei wrthwynebu o'r golofn las (bydd hyn yn agor y blwch gwrthwynebu mewn ffenestr arall)

2. copiwch y sylwadau yr ydych yn cytuno efo nhw o'r blwch melyn.

3. pastiwch y sylwadau i mewn i'r ffurflen wrthwynebu yn y blwch 'Ymateb', cwbwlhewch y ffurflen gan gofio dewis "gwrthwynebiad' yn y blwch 'math o ymateb' cyn clicio 'Anfon'

4ydd cam dewisol anfon y dudalen at ffrind:

 

1. Rhif Cais
Lleoliad
C14/0479/37/LL
Moelfre Bach, Llanaelhaearn, Pwllheli
C14/0673/37/LL
Bron Miod, Llanaelhaearn, Pwllheli
 

 

2. Rhesymau dros wrthwynebu
Dyma restr o resymau cynllunio cyffredinnol dros wrthwynebu, ar gyfer pob cais unigol, gellir ychwanegu unrhyw ystyriaethau lleol priodol eraill. Byddem yn awgrymu eich bod yn cynnwys cymaint o'r materion blaenoriaeth uchel efo sylwadau mwy lleol a'ch teimladau personnol chi-. (I gael ei gopio a'r bastio i mewn i'ch gwrthwynebiad)

Mae'n well cynnwys hyn ar ddechrau eich gwrthwynebiad --->
Yr wyf yn gwrthwynebu'r cais oherwydd y rhesymau canlynol.
Dyma wrthwynebiadau cyffredinnol ------>

medrwch addasu a dewis faint bynnag o sylwadau yr ydych yn yn ystyried yn berthnasol.

Byddai'r tyrbin yn strwythur mawr estron yng nghanol cefn gwlad agored sydd wedi ei gadw heb ei ddifetha.

Byddai yn achosi effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd o’i amgylch.

Byddai'r tyrbin yn weladwy o ardal eang yn cynnwys pentref sydd yn agos iawn ato.

Byddai'r tyrbin yn rhy agos i'r ty agosaf.

Byddai'r tyrbin yn agos ac yn weladwy o'r briffordd.

Byddai'r tyrbin yn agos at lwybr cyhoeddys.

Nid oes yna ddim ymgysylltiad na ymgynghori gyda’r gymuned wedi bod.

Dylai pawb sydd yn byw o fewn golwg y tyrbin gael rhybydd a chyfle teg i gyflwyno sylwadau.

Bwriad masnachol sydd yma a fydd yn costio yn ddrud i'r trigolion lleol drwy y biliau trydan sydd yn mynd yn fwy oherwydd y taliadau mawr yma i'r tirfeddianwyr.

Mae caniatau datblygiadau gwynt ar draws ardal boblog am achosi gostyniad sylweddol ym mhrisiau eiddo.

Mae miloedd o ymwelwyr yn dod i’r ardal bob blwyddyn. Eitemau 3.20 a 3.21 o gyd-destun polisi'r Canllaw Cynllunio Atodol Ynni Gwynt Tir (Rhagfyr 2012) yn cydnabod rôl hanfodol y diwydiant twristiaeth yn economi Gwynedd a sut mae’r cefn gwlad hardd heb ei ddifetha yn eu denu. Bydd hwn yn effeithio ar dwristiaeth yn yr ardal.

Y mae yna brawf cynnyddol nad ydi tyrbinau yn wirioneddol effeithiol o ran cynhyrchu ynni.

Mae caniatáu’r ceisiadau fesul un yn agor y drysau i eraill heb ystyried yr effaith yn y pen draw.

Bydd yn achosi niwed i fywyd gwyllt.

Bydd yn effeithio yn negyddol ar adar mudol.

Fod tyrbin o'r maint yma am fod yn strwythur estron a dieithr yn y lleoliad sensitif yma.

Mi fyddai caniatau'r cais yma ac yn cadarnhau y cynsail am fwy a mwy.

Mae'r datblygiad yn cael mwy nag effaith leol ac felly dylid ymgynghori'n ehangach.

Dylid bod wedi gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol i gael ei gyflwyno i ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y bwriad ac mae'r Cynghorau Cymuned a thref yn cytuno a'r safbwynt yma.

Dylid gwrthod y cais am ei fod yn groes i'r polisiau cynllunio canlynol -
B22 - DYLUNIAD ADEILADAU
B23 - MWYNDERAU
POLISI STRATEGOL 1 - MYND ATI I WEITHREDU’N RHAGOFALUS
POLISI STRATEGOL 2 - YR AMGYLCHEDD NATURIOL
POLISI STRATEGOL 23 - MWYNDERAU
POLISI STRATEGOL 33 - DATBLYGIADAU SY'N CREU LLYGREDD NEU BOENDOD

Mae'r rhesymau gwrthwynebu yma yn berthnasol i Llŷn, fwy neu lai i'r gorllewin o'r A499 ------>

medrwch addasu a dewis faint bynnag o sylwadau yr ydych yn ystyried yn berthnasol yn ychwanegol i'r sylwadau cyffredinol uchod.

Oherwydd fod tyrbin mor fawr ac wedi ei leoli mewn tirwedd mor sensitif ac y bydd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar dirwedd sensitif Llŷn dylai’r Cyngor fod wedi gofyn i'r ymgeisydd am Asesiad o Ardrawiad Amgylcheddol a fyddai yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ehangach a theg.

Oherwydd fod y strwythur mor fawr ac am gael effaith niweidiol mor sylweddol ar dirwedd sensitif Llŷn dylai'r Cyngor hysbysebu’r cais yn ehangach ac anfon rhybuddion at bawb sydd am sydd am ddioddef yr effaith niweidiol ar y dirwedd er mwyn rhoi cyfle teg ac amser rhesymol i bawb gael rhoi sylwadau.

Mae'r rhan fwyaf o Benrhyn Llŷn wedi ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r AHNE a'i golygfeydd a'i gosodiad yn cael eu gwarchod gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae'r ddeddf yma yn gosod cyfrifoldeb statudol ar bob corff cyhoeddus, pob ymgymerwr statudol, ac unrhyw berson sy’n dal swydd gyhoeddus, i warchod neu wella harddwch naturiol yr ardal a’i golygfeydd. Rwyf yn gwrthwynebu'r cais yma am y byddai yn cael effaith niweidiol sylweddol a fyddai'n achosi niwed arwyddocaol i'r AHNE, ei golygfeydd a'i gosodiad a byddai ei ganiatau felly yn groes i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Mae Polisi Cynllunio C26 Gwynedd yn datgan yn glir a phendant y “Gwrthodir cynigion ar gyfer datblygiad tyrbin gwynt ar safleoedd o fewn AHNE Llŷn” felly mae'n gwbwl amlwg fod yn rhaid hefyd wrthod y cais yma sydd yn agos at yr AHNE neu sydd o fewn golygfeydd yr AHNE, er mwyn sicrhau gwarchod neu wella'r AHNE yn unol â gofynion y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Mae tyrbin o'r maint yma am fod yn strwythur mawr estron a dieithr yn y dirwedd sensitif yma sydd wedi ei ddynodi yn un a'i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Ardal Gwarchod y Dirwedd ac Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol a mwy.

Mae'r tyrbinau sydd yn weladwy o ben Mynytho yn profi fod tyrbinau llai na hwn yn cael effaith andwyol sylweddol ar y tirlun o'u hamgylch: mae'r tyrbinau yng Nghastellmarch a Bodwi yn tarfu'n sylweddol ar y golygfeydd yng nghefn gwlad agored.

Mae tyrbin yn Nhrugeran yn gwbwl amlwg o Fynytho sydd tua 8KM i ffwrdd ac felly yn profi fod tyrbinau uwch na 11medr yn cael effaith niweidiol ar dirwedd sensitif Llŷn medr yn gwbwl amhriodol i dirwedd ddynodedig Llŷn.

Mae pob tyrbin uwch na 11medr yn dominyddu’r holl dirwedd a golygfeydd ac maent yn edrych yn rhy fecanyddol ac estron mewn cymhariaeth gyda’r harddwch oddi amgylch.

Mae Penrhyn Llŷn yn unigryw yng Nghymru ac efallai ym Mhrydain gan mai saith milltir sydd o un arfordir i’r llall. Golyga hyn fod ardrawiad gweledol tyrbinau ar y penrhyn am fod yn llawer mwy nag mewn unrhyw fan arall yn y wlad a’u bod felly yn cael effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd warchodedig sensitif yma.

Mae miloedd o ymwelwyr yn dod i’r ardal bob blwyddyn. Eitemau 3.20 a 3.21 o gyd-destun polisi'r Canllaw Cynllunio Atodol Ynni Gwynt Tir (Rhagfyr 2012) yn cydnabod rôl hanfodol y diwydiant twristiaeth yn economi Gwynedd a sut mae’r cefn gwlad hardd heb ei ddifetha yn eu denu. Bydd hwn yn effeithio ar dwristiaeth yn yr ardal.

Mae'r drefn gan Gyngor Gwynedd o ystyried pob cais yn unigol yn hytrach na pharatoi canllawiau polisi clir a phendant ar dyrbinau gwynt yn anghyfrifol ac yn groes i'r pwrpas o warchod neu wella yr AHNE ac am arwain at ddinistrio harddwch a chymeriad unigryw Pentrhyn Llŷn.

Mae ystyried pob cais yn unigol yn yn hytrach na pharatoi a mabwysiadu canllawiau polisi clir a phendant yn ffordd o osgoi'r rheolau priodol y dylid eu dilyn wrth ymdrin a cheisiadau am fferm wynt (ee cynnal ymgynghoriad cyhoeddus). Mae ystyried a chaniatau ceisiadau fesul un yn agor y drysau i eraill heb ystyried yr effaith yn y pen draw.

Rwyf yn gwrthwynebu i'r Cyngor ganiatau'r cais yma am ei fod yn groes i bolisiau -
C26 - DATBLYGIADAU MELINAU GWYNT
B8 - ARDALOEDD O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL (AHNE) LLŶN A MÔN
B10 – Diogelu a chyfoethogi Ardaloedd Gwarchod y Dirwedd.
B12 - GWARCHOD TIRWEDDAU, PARCIAU A GERDDI HANESYDDOL.
B22 - DYLUNIAD ADEILADAU
B23 - MWYNDERAU
POLISI STRATEGOL 1 - MYND ATI I WEITHREDU’N RHAGOFALUS
POLISI STRATEGOL 2 - YR AMGYLCHEDD NATURIOL
POLISI STRATEGOL 3 - TREFTADAETH ADEILEDIG A HANESYDDOL
POLISI STRATEGOL 23 - MWYNDERAU POLISI STRATEGOL
33 - DATBLYGIADAU SY'N CREU LLYGREDD NEU BOENDOD

POLISI CYNLLUNIO CYMRU ARGRAFFIAD 4
Pennod 5 - Gwarchod a Gwella’r Dreftadaeth Naturiol a’r Arfordir
Pennod 6 - Gwarchod yr Amgylchedd Hanesyddol.

Nodyn: Cofiwch arwyddo'r ddeiseb i ymuno yn ein hymdrechion i warchod cefn gwlad rhag y diwydiant gwynt a derbyn mwy o wybodaeth.


Cyfarwyddiadau pellach, os nad ydych yn gwybod sut i gopio a phastio. -

I gopio'r tecst, cliciwch y chwith ar y llygoden a dragiwch ar draws i liwio'r tecst yr ydych eisiau ei gopio. Wedyn pwyswch y ddau fotwm - Ctrl+C.

I bastio'r tecst syd wedi ei gopio i fewn i'r blwch 'Ymateb', cliciwch yn y blwch a pwyso at y ddau fotwm Ctrl+V (mae cyfrifiaduron Macintosh yn defnyddio cyfuniad +C a +V.)

Os ydych eisiau anfon cyfeiriad y dudalen ymlaen mewn ebost dyma'r cyfeiriad - www.dimgwynt.co.uk/object/indexc.html